Mae Clwb Rygbi Pontypridd wedi gosod esiampl i glybiau eraill trwy fynd ati i lunio polisi iaith swyddogol ar ran y clwb.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn annog clybiau o bob math o’r byd chwaraeon i ddefnyddio mwy o’r iaith Gymraeg yn eu gweithgareddau. Mae hyn hefyd yn bolisi swyddogol ar ran Undeb Rygbi Cymru.
Mae Clwb Rygbi Pontypridd wedi cymryd y polisiau hyn o ddifrif, ac wedi gwerthfawrogi y niferoedd ymysg cefnogwyr a chwaraewyr y clwb sy’n medru’r iaith ond efallai heb gael y cyfle neu’r hyder i’w defnyddio yn fwy aml.
Yn ol Swyddog y Wasg Clwb Rygbi Pontypridd Guto Davies, y dull y mae’r clwb yn ei fabwysiadu wrth hyrwyddo’r iaith yw mai’n araf bach y mae mynd ymhell.
“Dy’n ni ddim mewn sefyllfa i drosi holl weithgaredd y clwb yn gyfangwbwl o’r Saesneg i’r Gymraeg dros nos” meddai Davies. “Ry’n ni’n byw mewn cymuned lle mae’r Gymraeg yn draddodoadol wedi colli tir ond yn awr a’r cyfle i ad-ennill y tir hwnnw yn raddol.
“Mae addysg Gymraeg wedi ehangu yn yr ardal, a nifer fawr yn pasio drwy’r ysgolion ac yn cael gafael ar yr iaith. Y broblem enfawr wedi hynny yw nad oes cyfleoedd i ddal ati i ddefnyddio’r iaith yn naturion yn y gymuned.
“Os gallwn ni fel clwb rygbi poblogaidd yn y gymuned wneud argraff ar bobol fod y Gymraeg yno ar gyfer pawb, ac nad oes tabw i’w defnyddio fel iaith naturiol bob dydd, yna’r gobaith yw y gallwn wneud rhywfaint o gyfraniad tuag at ei hadferiad.”
Mae’r Gymraeg wedi ei chyflwyno mewn nifer o ffyrdd yng ngweithgareddau’r clwb. Mae erthyglau yn cael eu gosod ar y wefan, erthygl ‘Gair i Gall’ yn rhaglenni’r gemau, caneuon Cymraeg yn cael eu chwarae dros yr uchelseinydd ac erthyglau a fideo wedi eu danfon i’r cylchgrawn wythnosol Golwg.
Mae’r clwb hefyd yn cyfrannu yn rheolaidd i raglen Gymraeg yr orsaf radio leol GTFM bob nos Fawrth, ac yn rhoi eitemau misol i’r papur bro Tafod Elai.
“Does dim byd yn chwyldroadol yn y ffordd y gallwn ni hybu’r Gymraeg o fewn y clwb” medd Guto Davies. “Yn gyffredinol mae yna ewyllys da tuag at yr iaith a byddwn yn ddibynnol ar hynny i wneud i’r polisi iaith lwyddo. Y gamp fawr fydd rhoi’r hyder i’n cefnogwyr ifanc ac i’n chwaraewyr allu defnyddio’r Gymraeg yn hollol naturiol ymysg ei gilydd o ddydd i ddydd.”
Pontypridd RFC is proud to have introduced its own Welsh Language Policy, in line with Welsh Government and WRU policy.
The club represents a community in which the language traditionally lost ground, but is now making a significant comeback. With a growing number of club supporters and players being Welsh speakers, but often lacking the confidence to use the language, the club hopes that its positive use of Welsh can be of benefit to the community.