Paratoi ar gyfer tymor newydd
Mae Clwb Rygbi Pontypridd yn paratoi ar gyfer tymor newydd – un sydd yn cynnig sialensau newydd heriol gyda dyfodol y clwb yn y fantol.
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi newid strwythur Uwch-gynghrair y Principality, ac am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer, bydd yr un-clwb-ar-bymtheg yn brwydro yn erbyn y bygythiad o gwympo i’r adran islaw, y Bencampwriaeth.
Y bwriad yw cwtogi nifer y clybiau yn yr Uwch-gynghrair i ddeuddeg felly bydd y pedwar clwb sy’n diweddu ar waelod y tabl yn cael eu darostwng.
Y farn gyffredinol yw y gallai’r fath dynged fod yn drychinebus i glwb fel Pontypridd, i’r cefnogwyr ac i’r gymuned, a’r bwriad penodol yw osgoi’r fath dynged.
Diweddodd Pontypridd y tymor blaenorol yn y trydydd safle yn y tabl, ond yn sicr bydd y gynghrair y tymor nesaf yn llawer mwy cystadleuol, gyda nifer o glybiau wedi gwario arian mawr i ddenu chwaraewyr newydd i’w rhengoedd.
Nid oes arian mawr gan Bontypridd, ond mae’r polisi o fagu talent ifanc drwy Goleg y Cymoedd a Phrifysgol De Cymru, a rhoi cyfle i chwaraewyr addawol o glybiau cyfagos, yn talu ar ei ganfed.
Mae yn agos i hanner cant o chwaraewyr wedi bod yn ymgynull i sesiynnau ymarfer Pontypridd dros yr haf, a’r gobaith yw y bydd carfan dalentog a chystadleuol yn ei lle ar gyfer y tymor newydd.
Daeth nifer o wynebau newydd mewn i’r clwb dros yr haf, rhai profiadol a rhai ifanc a di-brofiad. Y gamp i’r hyfforddwyr fydd gweu at ei gilydd garfan fydd yn dal ei thir yn y gynghrair ar ei newydd wedd.
This article commissioned for the local Welsh language journal Tafod Elai focuses on the challenges of a new season, with changes made to the structure of the Premiership. The WRU have proposed a cut to the number of clubs participating from sixteen to twelve, with relegation from the top flight.
Such a fate would be calamitous for a club like Pontypridd, its supporters and community.
The Premiership promises to be a far more competitive one this season, with many clubs spending money to bolster their squads. Pontypridd continue to rely on a policy of development, nurturing players from Coleg y Cymoedd, the USW and neighbouring clubs.
The task for the coaches will be to bond together a squad capable of holding its own in the newly structured league.
Wordsearch
strwythur : structure
adran : division
tynged : fate
arian : money
carfan : squad